Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”)

Tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – LH 17

 

Compressed Public Health Wales logo

Cyflwyniad i Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Sylweddau Seicoweithredol Newydd

 

Awdur: Josie Smith, Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau

 

Dyddiad: 20 Hydref 2014

Fersiwn: 1

 

Cyhoeddiad / Dosbarthiad:  

·         Cyhoeddus (Rhyngrwyd)

 

Dyddiad Adolygu: N/A

 

Pwrpas y Ddogfen a Chrynodeb:

Cyflwyniad Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r ddogfen hon i Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Sylweddau Seicoweithredol Newydd

 

 

 

1                  Rhagarweiniad a chrynodeb

 

Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i roi tystiolaeth i Archwiliad Pwyllgor y Cynulliad ar Sylweddau Seicoweithredol Newydd.

Awgryma gwybodaeth o nifer o ffynonellau yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys Cymru, fod defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd (SSN) yn broblem gynyddol o ran iechyd y cyhoedd.  Mae defnyddwyr SSN mewn perygl o nifer o effeithiau niweidiol difrifol ar iechyd.  Y rhain, yn bennaf, yw effeithiau corfforol, seicolegol ac ymddygiadol uniongyrchol y cyffuriau eu hunain.  Mae’r niweidiau hyn yn adlewyrchu dim ond canlyniadau tymor byr defnyddio SSN.  Nid yw’n bosib eto ddarogan graddau’r niwed yn y dyfodol.

Yr agwedd a gymerir yng Nghymru tuag at leihau niwed yw’r agwedd briodol.  Mae’n amlddisgyblaethol ac yn canolbwyntio ar iechyd.  Dymunwn ei gweld yn datblygu mewn tair ffordd:

  • Datblygiad llwybrau clir ar gyfer gofal ac ymgysylltu – o gyswllt cynnar neu gychwynnol ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol (er enghraifft gweithwyr ambiwlans, yr heddlu, gofal sylfaenol, gwasanaethau ieuenctid ac ymarferwyr clinigol) i wasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol (o drothwy isel a gwaith cymunedol allgymorth drwodd i driniaeth).
  • Addasiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol - i ddiwallu anghenion defnyddwyr cyffuriau a rhai sy’n defnyddio amryw o gyffuriau yn cynnwys defnyddwyr SSN, yn enwedig y rheiny sy’n defnyddio gweithyddion derbyn cannabinoid synthetig a symbylwyr.  Mae gwasanaethau’n canolbwyntio’n bennaf ar hyn o bryd ar ddefnydd mwy traddodiadol o gyffuriau fel heroin ond dylent ddarparu cymorth a thriniaeth i bawb sy’n profi camddefnyddio sylweddau problemus.
  • Cynyddu arbenigedd – mae yna lefel uchel o wybodaeth ac arbenigedd o ran SSN mewn rhai sefydliadau yng Nghymru.  Fodd bynnag, mae angen i ni godi ymwybyddiaeth ac addysgu a hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio â’r rheiny a allasai fod yn defnyddio SSN neu sy’n ystyried gwneud hynny, yn ogystal â’r boblogaeth ehangach.

2             

Codi ymwybyddiaeth o’r niweidiau sy’n gysylltiedig â’r defnydd o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon ymysg y cyhoedd a’r rheiny sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol

Mae defnyddio’r term ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ yn ddi-fudd.  Mae’n awgrymu bod y sylweddau hyn yn gyfreithlon ac felly’n ‘ddiogel’.  Yn aml iawn ’dyw’r sylweddau naill ai’n gyfreithlon nac yn ddiogel.  Felly, bydd yn well gennym ddefnyddio’r term sylweddau seicoweithredol newydd (SSN)[1].

Nid oes yna un ffordd o godi ymwybyddiaeth ar gyfer pobl sy’n defnyddio SSN neu sy’n gweithio â phobl sy’n defnyddio SSN.  Mae hynny oherwydd bod yna wahanol fathau o ddefnyddwyr SSN.

Os ydyn ni am gyfathrebu’n effeithiol mae angen i ni ddeall  agweddau, gwybodaeth ac ymddygiadau pobl sy’n defnyddio SSN.  Mae yna dri grŵp diffiniadwy:

 

 

 

Adloniadol a’r rheiny sy’n mynd i glybiau/bartïon

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys yn bennaf y glasoed ac oedolion ifanc sy’n aml yn defnyddio SSN i ddibenion hamdden ar benwythnosau, mewn gwyliau etc.  Fe allant ddod yn ddefnyddwyr problemus neu’n ddefnyddwyr sy’n defnyddio amryw o gyffuriau. 

Maen nhw’n tueddu i ddefnyddio SSN mewn pyliau, gan ddefnyddio ystod o sylweddau’n aml, dros nifer o ddyddiau.  Felly maen nhw mewn perygl yn rheolaidd o wenwyndra difrifol ac yn agored i niweidiau eraill sy’n gysylltiedig â meddwdod yn cynnwys rhyw peryglus a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. 

Gan nad ydyn nhw, o bosib, wedi datblygu unrhyw oddefedd neu oddefedd cyfyngedig i sylweddau, maen nhw’n fwy agored i niwed gan sylweddau cryf / dogn uchel, yn cynnwys canabinoidau synthetig.

Gwerthir SSN yn aml fel cynnyrch penodol sengl neu gynnyrch wedi’i frandio, fel tabled Ecstasy (MDMA), ond gall y dabled ei hun gynnwys cemeg/au cwbl wahanol e.e. Para-methoxyamphetamine (PMA).  Yn 2012 roedd cyfanswm o 17 o farwolaethau yn y Deyrnas Unedig yn ganlyniad penodol i gymryd PMA a brynwyd fel Ecstasy. 

Bydd y rheiny sy’n mynd i glybiau/partïon yn prynu sylweddau’n rheolaidd, gan ddewis sylweddau er mwyn eu heffaith yn ogystal â ‘statws cyfreithlon’ ymddangosiadol’. 

Yn seiliedig ar y ddealltwriaeth yma, mae’n ymddangos bod adroddiadau cyfoedion o groes effeithiau a’i glywed ar lafar yn llawer mwy effeithiol o ran dechrau newid ymddygiadol na gwybodaeth glinigol. Gellir ategu cyfathrebu gan gyfoedion drwy:

·         Argaeledd gwybodaeth i sicrhau defnydd diogelach o SSN mewn mannau lle y defnyddir SSN (gwyliau, clybiau etc)

·         Rhannu gwybodaeth ar SSN gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a thraddodiadol

·         Dulliau marchnata cymdeithasol

·         Hyrwyddiad gwasanaethau fel WEDINOS (gweler Atodiad 1) sy’n rhoi dadansoddiad gwrthrychol ac yn proffilio sylweddau

“Seiconôts”

Bydd ”seiconôts’ yn arbrofi’n weithredol â chemegau sy’n altro’r meddwl ac maen nhw’n awyddus i roi cynnig ar sylweddau cwbl newydd.  Fe fyddan nhw’n cymryd mesuriadau manwl yn aml ac yn cadw cofnodion o brofiadau.

Maen nhw’n hynod fywiog ar y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol ac yn ymgysylltu â thrafodaeth fforwm ar-lein ynglŷn â phrofiadau sy’n gysylltiedig â dosau penodedig.

Ar y sail hon, y ffyrdd gorau o gyfathrebu â ‘seiconôts’ yw:

·         Defnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol e.e. mae WEDINOS yn lleihau niwed potensial, yn enwedig o ran sylweddau hynod wenwynig, drwy nodi’r effeithiau hunanadroddiadol gan ddefnyddwyr eraill sylweddau cwbl newydd. 

·         Eu hymgysylltu drwy fforymau a thrafodaeth ar-lein  

·         Defnyddwyr amryw o gyffuriau

·         Defnyddwyr amryw o gyffuriau sy’n cyflwyno’r sialens fwyaf i iechyd y cyhoedd.  

·         Mae’r rhain yn bobl sydd â hanes o gymryd cyffuriau yn cynnwys sylweddau a reolir fel heroin, cocên, amffetaminau a chanabis.  Fe allan nhw ychwanegu SSN at y rhestr cyffuriau y maen nhw’n eu defnyddio. 

Mae yna dystiolaeth glir o gynnydd mewn trosglwyddiad firysau a gludir yn y gwaed yn y Deyrnas Unedig a Chymru o ganlyniad i ddefnyddio SSN.  Cofnodwyd cynnydd mewn HIV a throsglwyddiad Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol ymysg y rheiny sy’n mynychu partïon ‘Chem-sex’ lle cymerir SSN a chyffuriau eraill dros gyfnod penwythnos maith.  Partïon rhyw yw’r rhain yn anad dim rhwng dynion sy’n cael rhyw â dynion.  Gallai’r diffyg gwybodaeth o ran cynnwys a chryfder SSN olygu mwy o berygl i bob defnyddiwr oherwydd y diffyg ataliad, effeithiau annisgwyl a hyd yr effeithiau. 

Canlyniad mabwysiad SSN penodedig ochr yn ochr â chyffuriau traddodiadol a reolir yw cynnydd mewn ymddygiad o risg mewn perthynas ag amlder chwistrellu o gyfartaledd o dri phigiad y dydd i 15-20 a mwy o bigiadau'r dydd a adroddir yn gyffredin.

Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae meffedron a defnyddio SSN eraill yn cynnwys cathinonau eraill a chanabinoidiau synthetig wedi dod yn fwy sefydledig ymysg defnyddwyr amryw o gyffuriau.  Tra bo gwaith i amcangyfrif cyffredinolrwydd yn gyfredol, mae defnyddio a hunanadroddir ymysg defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu yn unig wedi mwy na dyblu.  

Nid yw defnyddio SSN ymysg defnyddwyr nifer o gyffuriau yn gyfyngedig i’r rheiny sy’n chwistrellu.  Nid yw mwyafrif y defnyddwyr SSN yn chwistrellu.  Felly maen nhw ymhellach fyth oddi wrth gysylltiad â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sy’n darparu offer chwistrellu di-haint yn ogystal â chyngor ar leihau niwed. 

Gan ystyried yr uchod, y ffyrdd mwyaf effeithiol o godi ymwybyddiaeth â defnyddwyr amryw o gyffuriau a’u haddysgu yw:

  • Addasu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol fel eu bod yn diwallu anghenion pob defnyddiwr sylweddau yn cynnwys pobl ifanc a defnyddwyr amryw o gyffuriau.  Bydd hyn yn gofyn hefyd am fwy o arbenigedd ymysg staff. 
  • Targedu cysylltiadau, allgymorth rhagweithiol ac ymgysylltu drwy wasanaethau camddefnyddio sylweddau sydd wedi’u hail-alinio.

3             

Gallu gwasanaethau lleol yng Nghymru drwyddi draw i godi ymwybyddiaeth o’r niweidiau sy’n gysylltiedig â chyffuriau penfeddwol cyfreithlon – a delio â nhw.

 

Mae’r broblem sylfaenol yn ymwneud â’r ystod o wasanaethau a gynigir yn lleol, yn hytrach na’u gallu.

Mae gwasanaethau lleol ledled Cymru mewn lle da i godi ymwybyddiaeth o’r niweidiau sy’n gysylltiedig â defnyddio SSN gan ddefnyddio gwybodaeth o dueddiadau lleol.

Fodd bynnag, mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau presennol yn tueddu i ddelio’n fwy â chyffuriau traddodiadol.  Felly, fe allant ddioddef oherwydd y canfyddiad gan ddefnyddwyr SSN, ac yn ehangach, ddefnyddwyr symbylwyr/canabis/ gweithyddion derbyn cannabinoid synthetig, nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i’w gynnig.  Felly, gallai defnyddwyr SSN fethu ag ymgysylltu â’r gwasanaethau hyn.

Byddai addasu gwasanaethau, yn seiliedig ar dystiolaeth o anghenion y boblogaeth sy’n defnyddio sylweddau, yn delio â hyn ynghyd â’r lefelau cynyddol o arbenigedd ymysg y staff.  Yn ogystal, byddai datblygu llwybr clir i wasanaethau’n cynnal ymgysylltiad ac yn lleihau niweidiau.

O’u haddasu fe allant fod yn ymgysylltu’n rheolaidd â defnyddwyr SSN yn y gymuned.  Dylai gwybodaeth leol ynghyd â mwy o arbenigedd hwyluso codi ymwybyddiaeth ymysg y poblogaethau risg.

Mae angen i wasanaethau lleol gael cefnogaeth gwasanaethau gwybodaeth lleol fel DAN24/7 a WEDINOS. Gallant ddarparu dull gweithredu sy’n unedig ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod negeseuon clir a pherthnasol yn cael eu teilwra ar gyfer y poblogaethau penodedig sy’n defnyddio SSN.

 

 

4                  Effeithiolrwydd casglu data ac adrodd ar y defnydd o gyffuriau penfeddwol cyfreithlon yng Nghymru a’u heffeithiau

 

Mae yna nifer o systemau casglu data cenedlaethol cadarn wedi’u sefydlu yng Nghymru sy’n ymwneud â’r defnydd o SSN, ac mae nifer o rai eraill yn cael eu datblygu:

  • Mewn ymateb i’r bygythiad gan SSN yng Nghymru, fe ddatblygodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, y prosiect WEDINOS yn 2013. Â hwn gellir casglu data ar y mathau o SSN a ddefnyddir yng Nghymru, ac ar y niweidiau a brofir fel y’u hadroddwyd gan y rheiny sy’n eu defnyddio.  Mae yna 71 o wasanaethau cyfranogol yng Nghymru drwyddi draw yn cynnwys pedwar llu heddlu Cymru, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, tai a digartrefedd, gwasanaethau ieuenctid, adrannau addysg ac argyfwng ynghyd â samplau defnyddwyr SSN.

Cynhyrchir adroddiad chwarterol ar-lein ar gyfer pawb sydd â diddordeb. Yn ogystal, mae’r wefan www.wedinos.org yn darparu gwybodaeth gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau ar wenwyndra a niweidiau. 

Er nad yw’r system yn darparu amcangyfrif cyffredinrwydd pawb sy’n defnyddio SSN, mae yn darparu dadansoddiad o dueddiadau cylchrediad SSN a’r rheiny a ddefnyddir, yn ôl ardal ddaearyddol eu preswyliad.  Mae hefyd yn nodi’r niweidiau sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau penodol. 

Yn ogystal, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n ymgymryd ag amcangyfrif mynychder cyffuriau problemus a fydd yn cynnwys opioidau, cocên / crac cocên ac amffetaminau a sylweddau sy’n debyg i amffetaminau (yn cynnwys cathinonau SSN) o 2011/12 a hyd at 2020/21.  Roedd amcangyfrifon mynychder blaenorol wedi canolbwyntio ar y defnydd o heroin a chocên/crac.  Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddatblygu ac yn mynd drwy’r broses o gymeradwyaeth foesegol ond dylai fod yn barod ar gyfer Ebrill 2015.

·         Mae Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn gwneud lwfans ar gyfer dynodiad SSN penodol o gyfeirio at wasanaethau triniaeth. Fodd bynnag, nid yw cyffuriau eilaidd a thrydyddol a ddefnyddir wedi eu cofnodi’n dda ac felly, mae’n bosib fod yna adrodd rhy ychydig ar ehangder y defnydd o SSN ar hyn o bryd.  Efallai y bydd hyfforddiant ar SSN i staff, fel y’i dynodir uchod, yn gwella hyn.

·         Mae Cronfa Ddata Lleihau Niwed Cymru - modiwl SSN - yn darparu data o ansawdd ar bob un o’r rheiny sy’n chwistrellu cyffuriau, yn cynnwys SSN penodol, sy’n cysylltu â rhaglenni nodwyddau a chwistrellau ledled Cymru.  Mae data o’r tair blynedd ddiwethaf yn dangos cynnydd pedrwbl yn nifer y bobl sy’n chwistrellu meffedron ynghyd â chyffuriau eraill (heroin yn bennaf).

·         Dibynna Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr ar hunanadrodd ar sylweddau yn cynnwys rhai SSN.  Nid yw’n gwahaniaethu rhwng sylweddau arbennig e.e. canabis a chanabinoidau synthetig.

Ni fydd mwyafrif defnyddwyr SSN, fodd bynnag, â chyswllt â thriniaeth arbenigol a gwasanaethau cysylltiedig. Mae hyn yn sialens o ran nodi graddfa’r defnydd o SSN a natur y niweidiau sy’n gysylltiedig â’u defnyddio. 

Dylid cynnal asesiadau o anghenion lleol sy’n cynnwys gwaith maes cymunedol ac allgymorth yn rheolaidd yn enwedig ymysg pobl ifanc, yn rhan o addasiad y gwasanaeth i sicrhau bod gwybodaeth leol am raddfa a natur y defnydd o SSN yn eglur ac yn cael ei fwydo i mewn i systemau casglu data cenedlaethol.

O ran cofnodi niweidiau i iechyd clinigol, nid yw data derbyniadau i ysbytai yn gallu cofnodi’r niweidiau (e.e. gwenwyno llym) gan SSN penodedig.  Mae hynny oherwydd nad yw’r claf yn aml yn gwybod beth maen nhw wedi ei gymryd ac oherwydd nad yw codio ar gyfer SSN unigol yn bosib. 

Gellid delio â’r sialens hon pe bai data’n cael ei gasglu pan fydd pobl yn ymgymryd â gwasanaethau brys a gwasanaethau gofal sydd heb eu trefnu. Pe gofynnid dau gwestiwn i bobl - “Ydych chi wedi cymryd unrhyw gyffuriau ar wahân i’ch meddyginiaeth presgripsiwn eich hun heddiw?” ac “Ydych chi wedi cymryd unrhyw alcohol heddiw?” - gallai’r system ‘fflagio’ cofnodion claf i’w dadansoddi ymhellach o ran camddefnyddio sylweddau (cyffuriau ac alcohol) a niweidiau a chanlyniadau cysylltiedig.

 

 

5                  Y dulliau deddfwriaethol posibl o fynd i’r afael â phroblem cyffuriau penfeddwol cyfreithlon, ar lefel Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig â phwerau ar gyfer deddfwriaeth SSN.  Defnyddir nifer o ddulliau deddfwriaethol yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.  Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio Gorchmynion Cyffuriau â Rheolaeth Dros Dro, deddfwriaeth Safonau Masnach a dosbarthiad SSN dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau (1971) a Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (2001). Fe oleuir deddfwriaeth gan y Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau a chyrff gwyddonol eraill.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi gwaith y Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Sylweddau a’r System Rhybudd Cynnar Ewropeaidd (Canolfan Fonitro Ewropeaidd ar gyfer Cyffuriau a Dibyniaeth ar Gyffuriau) gyda chanfyddiadau gan WEDINOS yn dystiolaeth o’r niweidiau sy’n gysylltiedig â SSN penodedig.

Mae yna gryn ddryswch yn y boblogaeth ynglŷn â statws cyfreithiol llawer o gyffuriau a dosbarthiad parhaus sylweddau newydd a meddyginiaeth bresgripsiwn sy’n bod yn barod. 

Mae’n ymddangos bod defnyddio Gorchmynion Cyffuriau â Rheolaeth Dros Dro a deddfwriaeth arall wedi bod yn llai nag effeithiol o fewn poblogaeth defnyddwyr SSN.  Mae yna bryder ymysg y rheiny sy’n gweithio yn y maes hwnnw, er y dylid rheoli rhai sylweddau eithriadol wenwynig, y gallai’r strwythurau a’r prosesau rheoli presennol arwain unigolion i arbrofi â sylweddau newydd sydd heb reolaeth ac y gwyddom ychydig iawn amdanyn nhw.  Mae hyn drwy hynny â photensial o gynyddu’r niweidiau iechyd llym a chronig posibl.  

Roedd enghraifft ddiweddar yn cynnwys y symbylwyr SSN 5 a 6-APB.  O fewn pum mis o weithrediad Gorchymyn Cyffuriau Dosbarth Dros Dro ar y symbylwyr (phenethylamines) 5- a 6-APB, roedd o leiaf ddau o ddeilliadau newydd ‘cyfreithlon’ wedi eu datgan.  Mae’r cyffuriau hyn yn dynwared effeithiau ecstasi ac amffetaminau.  Ers hynny mae 5 a 6-APB wedi eu rheoli’n gyffuriau Dosbarth B yn dilyn tystiolaeth wyddonol o dderbyniadau i ysbyty a nifer bychan o farwolaethau. 

Mae Wedinos yn helpu i reoli’r broblem yma drwy ddarparu system sy’n nodi sylweddau newydd a’r niweidiau gwirioneddol a photensial sy’n gysylltiedig â’u defnyddio.

Credwn fod dull gweithredu o leihau niwed a chanolbwyntio ar iechyd yn debygol o fod yn fwy effeithiol nag un sy’n seiliedig ar gyfiawnder troseddol.  Pe byddai i Gymru fabwysiadu deddfwriaeth sy’n rhagnodi iechyd ym mhob polisi, byddid yn cryfhau hynny.  Credwn y dylid cyflawni hyn drwy’r Bil Lles Cenedlaethau’r Dyfodol gydag iechyd wedi ei gynnwys yn ei nod cyffredin.

6             

Pa mor effeithiol y mae’r dull partneriaeth o fynd i’r afael â phroblemau cyffuriau penfeddwol cyfreithlon yng Nghymru’n cael ei gydlynu, yng Nghymru a rhwng Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig

 

Mae yna bartneriaethau amlddisgyblaeth cadarn sydd wedi eu hen sefydlu yng Nghymru i ddelio â’r niweidiau sy’n gysylltiedig â SSN.  Mae’r rhain yn cynnwys y Byrddau Cynllunio Ardal ar Gamddefnyddio Sylweddau a grwpiau lleihau niwed cysylltiedig. 

Drwy’r datblygiad a awgrymwyd o lwybrau amlddisgyblaeth, addasiad gwasanaethau a chynnydd mewn arbenigedd, dylai gweithio effeithiol mewn partneriaeth fod yn gryfach fyth.

Ar lefel genedlaethol, mae WEDINOS yn enghraifft o weithio cydweithredol â phartneriaid yn cynnwys cyfiawnder troseddol (lluoedd yr heddlu, y gwasanaeth prawf a gwasanaethau carchardai), iechyd (camddefnyddio sylweddau, gofal eilaidd ac adrannau ambiwlans/brys), tai, addysg, gwasanaethau ieuenctid ac awdurdodau lleol.  Mae’r dull partneriaeth yn hanfodol i reolaeth prosiect effeithiol barhaus a datblygiad. 

Fe gynrychiolir Cymru a Llywodraeth Cymru ar holl fyrddau perthnasol SSN y Deyrnas Unedig gyfan ac mae’n bartner effeithiol o fewn y Deyrnas Unedig. 

7             

Tystiolaeth ryngwladol ar y dulliau gweithredu gyda chyffuriau penfeddwol cyfreithlon mewn gwledydd eraill

 

Mae SSN yn cynrychioli sialens fyd-eang i’r rheiny sy’n gweithio ym maes camddefnyddio sylweddau, yn enwedig o ran lleihau niweidiau. 

Mae mwyafrif y gwledydd ledled Ewrop wedi mabwysiadu dulliau gweithredu deddfwriaethol i raddau helaethach neu raddau llai ochr yn ochr ag ataliad, codi ymwybyddiaeth ac ymyriadau lleihau niwed. 

Y dulliau mwyaf effeithiol, o bersbectif iechyd y cyhoedd, yw’r rheiny sy’n mabwysiadu dull llai cosbol a mwy pragmatic, gan gynorthwyo’r rheiny sy’n defnyddio neu’n ystyried defnyddio SSN. 

Mae angen rhoi’r pwyslais ar ddarparu gwybodaeth fanwl gywir, amserol a chredadwy, ymgysylltu rhagweithiol drwy gyfryngau perthnasol, ymyriadau seicogymdeithasol ac ymgysylltu cynnar trothwy isel â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol.  Yng Nghymru mae WEDINOS yn mabwysiadu dull felly ac fel y cyfryw’n denu sylw rhyngwladol ar ffurf ceisiadau cydweithredu a chyfraniad uniongyrchol i Ganolfan Monitro Cyffuriau a Chaethiwed i Gyffuriau Ewrop.


Atodiad 1 – WEDINOS (Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru) – amlinelliad o’r prosiect

Mewn ymateb i’r newidiadau mewn tueddiadau defnyddio cyffuriau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â Labordy Tocsicoleg Caerdydd a’r Fro, Llandochau, a Ffarmacoleg Prifysgol Caerdydd wedi datblygu’r prosiect WEDINOS (Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru).  Fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect cenedlaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer casglu a phrofi samplau o sylweddau seicoweithredol newydd a chyfuniadau o gyffuriau, ynghyd â gwybodaeth ynglŷn â’r symptomau y bydd defnyddwyr yn eu profi, yn ddisgwyliedig ac yn annisgwyl. 

Bydd coladu’r canfyddiadau hyn, ynghyd â nodi strwythur cemegol y samplau, yn hwyluso dosbarthiad gwybodaeth bragmatig am leihau niwed sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio cyffuriau seicoweithredol newydd neu’n ystyried eu defnyddio.  Bydd yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ar y wefan: www.wedinos.org

Cafwyd cyfres o ddigwyddiadau lansio WEDINOS ledled Cymru ym misoedd Medi a Hydref 2013 ar gyfer pawb sy’n defnyddio, neu’n gweithio â’r rheiny sy’n defnyddio Sylweddau Seicoweithredol Newydd.  Mae’r rhain yn cynnwys darparwyr gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd, arweinwyr ieuenctid a chyfiawnder troseddol, addysg a thai.  Fe drefnir digwyddiadau pellach yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau lle gallai darparwyr gofal iechyd perthnasol eraill, yn cynnwys fferylliaeth ac adrannau brys gyfrannu i’r prosiect WEDINOS. 

Mae’r prosiect WEDINOS yn cyfrannu i Systemau Rhybuddio ac Ymateb Brys ehangach y Deyrnas Unedig ac Ewrop sydd wedi’u sefydlu i nodi a monitro’r tueddiadau newidiol mewn defnyddio cyffuriau. 

 



[1] Mae’r term “sylweddau seicoweithredol newydd” wedi ei ddiffinio’n gyfreithiol gan yr Undeb Ewropeaidd fel narcotig neu gyffur seicotropig newydd, ar ffurf bur neu mewn cymysgedd, sydd heb ei restru dan Gonfensiwn Sengl ar Gyffuriau Narcotig 1961 na Chonfensiwn ar Sylweddau Seicotropig 1971, ond a allai fod yn fygythiad iechyd y cyhoedd y gellir ei gymharu â’r bygythiad gan sylweddau a restrir yn y confensiynau hynny. (Penderfyniad Cyngor yr Undeb Ewropeaidd 2005/387/JHA)